Profi Teclynnau Cludadwy (PAT)
Rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar brofi diogelwch trydanol i alluogi busnesau bach i gydymffurfio ag argymhellion Iechyd a Diogelwch presennol. Rydym yn profi pob math o declynnau trydanol ac yn arbenigo mewn profi offer trydanol sensitif ac offer TG. Mae'r profi i gyd yn cael ei wneud gan Brofwr cymwysedig.
Ffôn 01597 829 020 neu e-bost Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. ar gyfer dyfynbris sydyn.
|
Gyda'r cynnydd yn nifer o ddyfeisiau trydanol ac electronig, offer a chyfarpar yn y gweithle, mae cyfrifoldeb ar gyflogwyr i sicrhau bod yr holl offer trydanol yn cael eu profi am ddiogelwch trydanol yn rheolaidd. |
Adran 2 - Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gweithle (1984) yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr a gweithwyr i ''sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio'r gweithle''.
|
|
Adran 4 - Mae'r Rheol Trydan yn y gwaith (1989) yn datgan "bydd yr holl systemau yn cael eu cynnal er mwyn atal, cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol, perygl o'r fath. |
I alluogi i gwmnïau gydymffurfio â'r deddfwriaeth hwn mae bellach nifer o brofion safonol a gynhelir gan beiriannwr ardystiedig.
|
|
Rydym yn darparu profi cynhwysfawr a gwasanaethau ardystio ar gyfer offer trydanol Dosbarth I, II a III. Mae hyn yn cynnwys offer swyddfa i gyd a rhan helaeth o offer diwydiannol ysgafn.
|
Mae'r Rheolau darparu a defnyddio cyfarpar gwaith (1998) yn datgan bod rhaid i "bob cyflogwr sicrhau bod y cyfarpar gwaith yn cael ei gynnal at gyflwr digonol, mewn cyflwr gweithio effeithlon ac mewn cyflwr da'' |
|
Mae rheoliad 3 - Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith(1999) yn datgan bod "rhaid i bob cyflogwr wneud asesiad addas ac effeithlon o'r risgiau i iechyd a diogelwch ei weithwyr tra byddant yn y gwaith, a'r risgiau i iechyd a diogelwch personau nad ydynt yn ei waith sy'n deillio o neu mewn cysylltiad â'i ymddygiad tuag at ei weithwyr'' |
Ynghyd â dogfennu cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol, mae'r adroddiadau profi manwl yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i gleientiaid wrth synhwyro problemau technegol cyn iddynt ddigwydd.
|


