Mae’n cynlluniau gwe-letya yn dod ynghyd â nifer o raglenni gwe sydd yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ar eich safle.
Maent yn systemau rheoli cynnwys sydd yn hawdd i’w defnyddio (CMS) wedi’u cynllunio i’ch cynorthwyo i reoli’ch gwefan gyda’r cyn lleied o ffwdan posib.
Darperir gwasanaethau cynnwys, dylunio, graffeg a ffotograffau ychwanegol os oes angen.
Joomla - System rheoli cynnwys rymus ffynhonnell-agored yw Joomla! Defnyddir i reoli gwefannau syml a rhaglenni corfforaethol cymhleth. Mae Joomla! yn hawdd i’w osod, hawdd i’w reoli, ac mae’n ddibynadwy. Unwaith bydd Joomla yn cael ei osod ac yn weithredol, mae’n hawdd i hyd yn od defnyddwyr nad ydynt wedi arfer â meddalwedd technolegol i ychwanegu neu olygu cynnwys, diweddaru lluniau, neu i reoli data pwysig. Gall unrhyw un sydd yn meddu ar sgiliau prosesu geiriau sylfaenol ddysgu sut i ddefnyddio gwefan Joomla!.
WordPress - Platfform semanteg personol o’r radd flaenaf gyda ffocws ar estheteg, safonau ar y we, a defnyddioldeb yw WordPress. Am lond pen!. Mae Wordpress yn rhad ac am ddim ond hefyd yn declyn amhrisiadwy. Yn syml, pan fyddwch eisiau gweithio yn hytrach na brwydro gyda’ch meddalwedd blogio, defnyddiwch WordPress.
Gallery - Ategyn ar y we i’ch cynorthwyo i reoli lluniau ar eich gwefan yw Gallery. Gallwch greu a chynnal albymau lluniau yn hawdd trwy ddefnyddio rhyngwyneb sythweledol Gallery. Mae rheoli lluniau yn cynnwys creu man-luniau’n awtomatig, ailstrwythuro delweddau, cylchdroi, trefnu, penawdu, chwilio a mwy. Gall albymau lluniau gael caniatâd gweld, golygu, dileu a chaniatâd eraill fesul defnyddiwr a ddilyswyd yn unigol ar gyfer lefel ychwanegol o breifatrwydd. Mae’n ategyn gwych ar gyfer cymunedau – rhowch gyfrifon i’ch ffrindiau a’ch teulu a gadewch iddynt uwchlwytho a rheoli’u lluniau’u hun ar eich gwefan chi!.
Drupal - System rheoli cynnwys ffynhonnell-agored sydd yn cefnogi ychwanegu modiwlau sydd yn galluogi gweithgarwch ychwanegol yw Drupal. Mae’r modiwlau sydd ar gael ar gyfer Drupal yn darparu ystod eang o nodweddion, yn cynnwch systemau e-fasnach, galerïau lluniau, rheoli rhestr negesu, ac integreiddio CVS.
TYPO3 - Datblygiad gan y rhaglennydd Daneg Kasper Skaarhoej yw TYPO3. Dyma’r Fframwaith GPL Rheoli Cynnwys mwyaf datblygedig sydd ar gael, ac mae’n cystadlu’n frwd â chynnyrch masnachol sy’n costio US $50.000. Mae TYPO3 yn cael ei ddosbarthu o dan y drwydded GPL, serch hynny mae Kasper wedi mynegi nodau penodol ar gyfer y system sydd yn disgwyliedig arnoch i barchu (gweler typo3.com am fwy o wybodaeth).
osCommerce - Siop ar-lein yw osCommerce sydd yn darparu ystod eang o nodweddion sydd heb ei newid sydd yn caniatáu i siopau ar-lein gychwyn arni yn weddol sydyn, ac mae ar gael yn rhad ac am ddim megis datrysiad ffynhonnell agored a rhyddhawyd o dan Drwydded Cyffredinol y Cyhoedd GNU.
MIVA merchant - MIVA Merchant Five – Siop Ar-lein Proffesiynol.
Mambo – System ffynhonnell-agored yw CMS Mambo.
phpMyFamily - Bwriad phpmyfamiliy yw i ganiatáu i aelodau teuluol sy’n wasgaredig yn ddaearyddol gynnal cronfa-ddata canolog o waith ymchwil sydd ar gael yn hawdd a gellir ei olygu. Mae’n caniatáu i aelodau o’r teulu i gyfrannu fel a phan fydd gwybodaeth ar fael heb iddynt orfod ei anfon i ‘geidwad’ canolog. Ar yr un amser, mae’n caniatáu i’r cyhoedd i weld eich coeden teuluol (yn unol â'r cyfyngiadau isod) i weld os ydynt yn debyg.
Owl v0.80 – Mae Owl yn system storfa dogfen aml-ddefnyddiwr (sylfaen wybodaeth) sydd wedi ei ysgrifennu yn PHP4 ar gyfer cyhoeddi ffeiliau/dogfennau ar y we ar gyfer corfforaeth, busnes bach, grwp o bobl, neu ond chi eich hun.
phpMoney- Teclyn i reoli cyfrifon banc trwy ryngwyneb gwe yw PhpMoney
Anyinventory v2.0 - System y gallwch newid i ateb eich gofynion chi yw anyIventory fel bod y defnyddiwr yn gallu ôl-raen unrhyw fath o gynnyrch. Mae’n cynnwys meysydd defnyddiwr diffiniedig a chategorïau, uwch-chwilio, ac uwchlwytho ffeiliau.
Openbiblio - Pecyn bwletin cod-agored cyflym, graddedig y gallwch ei newid i ateb eich gofynion yw openBiblio. Mae gan phpBB ryngwyneb syml a phanel gweinyddu sy’n hawdd i’w defnyddio, a chwestiynau a ofynnir yn aml sydd yn gynorthwyol. Yn seiliedig ar iaith rymus gweinyddwr PHP a’ch dewis o weinyddwyr cronfeydd-data MySQL, MS-SQL, PostgreSQL neu Access/ODBC, phpBB yw’r ateb cymunedol delfrydol sy’n rhad ac am ddim ar gyfer pob gwefan.
Xrms - Rhaglen ar y we er mwyn rheoli endidau busnes megis gweithwyr, cwsmeriaid, cysylltiadau, gweithgareddau â'r cysylltiadau hynny, ayyb yw XRMS. Mae XRMS yn dod o dan y categori o raglenni a adwaenir megis Rheolaeth Perthynas Cwsmeriaid (CRM), Gweithredoli Gorfodi Gwerthiannau (SFA), ag agweddau o Gudd-wybodaeth Busnes (BI). Yn syml, os oes angen ar eich busnes i reoli’r berthynas gyda’ch cwsmeriaid a phartneriaid busnes, dylai XRMS fod yn gallu ateb eich anghenion. Gobeithiwn y byddwch yn ei ffeindio’n ddefnyddiol.
Mediawiki - Rhaglen meddalwedd wiki ar y we yw MediaWiki a ddefnyddiwyd gan gwmnïoedd megis rheolwr gwybodaeth fewnol, a megis system rheoli cynnwys. Mae MediaWiki wedi cael ei ysgrifennu mewn PHP, a gall defnyddio innau system rheoli cronfa-ddata perthynol MySQL neu PostgreSQL. Mae MediaWiki yn cefnogi mwy na 70 iaith; mae’n raddedig ac yn bosib ei newid i ateb â'ch gofynion chi.
WebCalendar - System calendr ar y we ar gyfer rheoli digwyddiadau personol, grwp a chorfforaethol dros y rhyngrwyd yw WebCaneldar. Rhaglen nodwedd llawn ar-lein sydd yn eich galluogi i gofio apwyntiadau personol, prosiectau grwp, cyfarfodydd cwmni ac archebion adnoddau. Mae’n llwyfan ddibynadwy yn annibynnol ac yn galluogi datrys problemau i sefydliadau bach i ganolig eu maint, yn darparu ffynhonnell canolig i ateb holl anghenion trefnu. Mae WebCalendar yn cefnogi cyfres cyfoethog o nodweddion dosbarth busnes, yn cynnwys nodweddion perchnogol megis calendr corfforaethol a dibyniaeth calendr. Mae’n cynnwys gweinyddwr calendr, system atgoffa e-bost, rheolwr tasgau, system dyddiadur, rheolwr rhestr cysylltiadau a rheolwr nodiadau.
eGroupWare - Meddalwedd menter cylchwedd sy’n rhad ac am ddim yw eGroupWare. Mae’n darparu calendr, sylfaen wybodaeth, system rheoli cynnwys, llyfr cyfeiriadau, rheoli prosiectau, a theclynnau rhestr. Mae ar gael mewn 25 iaith.
Tikiwiki - Mae TikiWiki yn galluogi gweinyddwyr a defnyddwyr i greu, arddangos, a chynnal cynnwys agored ar-lein o bob math, yn cynnwys testun, data deuaidd, delweddau, dolenni, a llawer mwy. Mae TikiWiki hefyd yn galluogi i weinyddwyr a defnyddwyr i gyfathrebu gyda’i gilydd (a’r byd) trwy ddulliau cyfryngol gwahanol, yn cynnwys negesu mewnol, teleffoni llais, cyfnewid data, a llawer mwy. Yn ychwanegol, mae TikiWiki yn caniatáu i bob defnyddiwr ddewis o amryw themâu/cefnlenni gweledol.
phpWiki - Gwefan sy’n debyg i WikiWikiWeb yn PHP yw PhpWiki. Safle lle gall unrhyw un olygu tudalennau trwy ffurf HTML yw WikiWikiWeb. Ol-wyneb storio, hypergysylltu deinamig, gosod themâu, newid sgript trwy ychwanegu ychwanegion, dilysu llawn, ACLau.
Myorgbook - Trefnydd ar-lein cod-agored yw MyOrgBook. Mae’n cynnwys nodweddion mewngofnodi aml-ddefnyddiwr, e-bost canfod cyfrinair, cysylltiadau, rhestr o bethau sydd i’w wneud, calendr, a newidiwr proffil. Mae’n caniatáu golygu, dileu, diweddaru cysylltiadau a llawer mwy.
TUTOS - TUTOS yw’r enw byr ar gyfer ‘y tîm trefnu meddalwedd terfynol’
Brim - Mae Brim yn cael ei ysgrifennu yn PHP ac mae’n rheolwr gwybodaeth cod-agored ar y we gyda chefnogaeth ar gyfer nodau tudalen, calendr, cysylltiadau, nodiadau, newyddion, cyfrineiriau a thasgau.
CSLH -. System sgwrsio cymorth aml-ddefnyddiwr, aml-reolwr, aml-adran sydd yn caniatáu i weinyddwyr y gwefan fonitro’u hymwelwyr ac agor sgwrs ar hap gyda’r ymwelwyr wrth iddynt bori trwy’r wefan. Mae’r strwythur modiwlaidd a’r cod-agored yn caniatáu i’r lefel uchaf posib o ryddid i ateb eich gofynion.
Mantis - System dod o hyd i wallau poblogaidd ar y we sy’n rhad ac am ddim yw Mantis. Mae wedi cael ei ysgrifennu yn iaith sgriptio PHP ac yn gweithio gyda chronfeydd-data MySQL, MS SQL a PostgreSQL a gweinyddwr gwe. Mae ar gael mewn 68 iaith, ac yn cynnwys y nodweddion canlynol: lefel mynediad gwahanol i ddefnyddwyr fesul prosiect; chwilio a ffiltro; hysbysiadau e-bost; atodiadau; ffrydiau RSS; cefnogaeth noddi (gall defnyddwyr benodi nawdd ar faterion penodol, gall datblygwyr hefyd ddilyn y fath noddi neu daliadau); cefnogaeth ail-osod cyfrinair hunan-wasanaeth; allforio i csv, Microsft Excel, Microsoft Word; y gallu i ymestyn ymarferoldeb trwy swyddogaethau penodol; Integreiddio Wiki; sgwrsio ar-lein, a llawer mwy o nodweddion.
phpsurveyor - Cyfres o sgriptiau PHP a ddynodwyd yw PHP Surveyor wedi’i hanelu at alluogi pobl i greu Arolygon ar-lein.
Moodle - System rheoli cwrs yw Moodle (CMS) – pecyn meddalwedd cod-agored sy’n rhad ac am ddim a ddyluniwyd wrth ddefnyddio egwyddorion cadarn pedagogaidd, i gynorthwyo addysgwyr i greu cymunedau addysgu effeithiol. Gall amrywio o safle un athro/awes i brifysgol â 50,000 o fyfyrwyr.
Serendipity - Rhaglen blogio ar y we sydd yn caniatáu i ddefnyddwyr gadw dyddiadur, cofnod neu dudalen hafan ar-lein yw Serendipity. Mae Serendipity yn darparu’r nodweddion canlynol: golygu WYSIWYG a HTML; cronfa-ddata pwerus mewnol; aml-awdur, system ymofyn caniatâd/grwp defnyddiwr; sylwadau a threfnwyd, categorïau wedi’u nythu, postio at aml-gategori; aml-iaith; ategyn ar-lein a thempled ystorfa ar gyfer gosod hawdd – ei osod ei ddefnyddio; ychwanegion: is-gofnod yn seiliedig ar gategori, podledu, cydgasglydd/planet RSS, tudalennau segur, atalydd sbam cadarn: diweddaru un-clic ar gyfer unrhyw fersiwn; gallwch wreiddio mewn i dudalennau sydd ar y we yn barod; mewnforio uniongyrchol o raglenni blogio blaenorol (WordPress, Textpattern, Moveable Tye, bblog).
Pmachinefree – Meddalwedd creadigol ar-lein mwyaf hyblyg cyhoeddi yw pMachine.
Coppermine - Sgript lluniau galeri yw Coppermine Photo Gallery. Gall defnyddwyr uwchlwytho lluniau gyda phorwr gwe (bydd man-luniau yn cael eu creu yn y man), cyfraddio lluniau, ychwanegu sylwadau ac anfon e-gardiau. Gall y gweinyddwyr rheoli’r orielau ac ychwanegu lluniau mewn swmp a uwchlwythwyd ar y gweinyddwr gan FTP. Mae cefnogaeth ar gyfer ffeiliau amlgyfrwng wedi ei ychwanegu’n ddiweddar. Mae lluniau yn cael eu cadw mewn albymau a gellir grwpio’r albymau fesul categori. Mae’r sgript yn cefnogi aml-ddefnyddiwr a gall pob defnyddiwr gael eu cyfres o albymau eu hun. Mae’r sgript hefyd yn cefnogi aml-iaith a chanddo system thema.
Tellme - Teclynnau bychain ar gyfer gwasanaethau rhwydwaith.
AdvancedPoll - Polau gyda theclyn gweinyddu pwerus yw Advanced Poll. Mae’n cynnwys: aml-bolau, templedi, dewisiadau anghyfyngedig, cymorth amlieithog, Mewngofnodi-IP, Cloi-IP, cymorth cwcis, nodwedd sylwebu, nodwedd pleidlais yn dod i derfyn, cefnogaeth polau ar hap a mwy. Yn cefnogi textfile a system cronfa-ddata MySQL.
DocFAQ - Beth yw DocBase. Fel dywed yr enw, system cronfa-ddata dogfen neu system rheoli dogfen sydd yn cynnwys golygydd testun cyfoethog mewnol. Mae’r rhaglen yn defnyddio PHP, wrth ddefnyddio cronfa-ddata MySQL megis system wrth-gefn.
SMF - Fforwm ar-lein a seiliwyd ar PHP a MySQL yw SMF. Mae’n darparu’r nodweddion canlynol: uwch-ganiatâd a rheoli defnyddwyr; aml-iaith; allbwn amlgyfrwng (XHTML, XML, RSS, WAP); dod o hyd i bynciau newydd neu heb ei ddarllen; dull cynnal a chadw, ond yn caniatáu i weinyddwyr fewngofnodi; sensro geiriau, neu llai’r geiriau i gyd neu ond yn rhannol; y gallu i ôl-raen gweithgarwch ddefnyddwyr; dod o hyd i bynciau, negeseuon, aelodau newydd, a hitiau fesul diwrnod, y gallu i anfon pynciau at ffrind; y gallu i weld fersiynau i’w argraffu o bynciau; gwahardd aelodau yn seiliedig ar eu henwau defnyddiwr, e-bost, cyfeiriad IP neu enw gwesteiwr (gydag amser dod i derfyn y gwaharddiad).
phpBook -Llyfr gwesteion syml ond pwerus yw phpBook, sydd yn caniatáu i ymwelwyr adael negeseuon ar eich gwefan. Mae’n cynnwys amddiffyn rhag gorlifo.


